Cymhelliant Cartrefi Gwyrdd

Mae Banc Datblygu Cymru wedi ymrwymo i fusnes cynaliadwy a’r newid i sero net ac mae’n dymuno cefnogi datblygwyr i wneud y newid i arferion datblygu gwyrddach.

Rydym yn cynnig gostyngiad o hyd at 2% ar ffioedd benthyca datblygiadau preswyl os caiff yr holl feini prawf gwyrdd canlynol eu hymgorffori mewn adeiladau newydd, neu ostyngiad llai wrth fodloni un neu fwy:

  1. EPC Gradd A  / statws Passivhaus
  2. Strwythurau nad ydynt yn goncrid
  3. System wresogi tanwydd di-ffosil

Meini prawf cymhelliant gwyrdd

Mae graddfeydd EPC yn adlewyrchu effeithlonrwydd ynni eiddo; mae data diweddaraf RICS (2020) yn dangos bod 77% o’r holl adeiladau newydd yng Nghymru wedi cyflawni sgôr B, gyda dim ond 5% yn cael sgôr A.

Mae yna nifer o ffactorau sy'n gwella graddfeydd EPC cyfredol gan gynnwys:

  • Inswleiddio (maint ac ansawdd)
  • Gwydr dwbl / triphlyg
  • Paneli solar

Mae Passivhaus yn cael ei ystyried yn gyffredinol fel safon aur cartrefi ynni-effeithlon o ystyried yr ynni isel iawn sydd ei angen i gyrraedd tymheredd cyfforddus trwy gydol y flwyddyn, gan wneud systemau gwresogi a chyflyru aer confensiynol yn ddarfodedig.

Ym Manc Datblygu Cymru, rydym am wobrwyo datblygwyr sy'n cyflawni naill ai sgôr EPC Gradd A neu statws Passivhaus drwy gynnig gostyngiad ffi o 0.5%.

Derbynnir yn eang bod strwythurau amgen megis fframiau pren, blociau hempcrete neu galchcrit, a brics myseliwm yn cael llai o effaith carbon na choncrit.

Er bod cartrefi ffrâm bren wedi dod yn fwy cyffredin dros y degawd diwethaf, mae'r defnydd o ddewisiadau amgen llai cyffredin yn tyfu ond yn dal i fod ymhell o ddod yn brif ffrwd. I gefnogi datblygwyr sy'n edrych ar ddefnyddio deunydd adeiladu mwy gwyrdd, bydd y tîm Cymhelliant Gwyrdd yn ystyried pob opsiwn o'r fath fesul achos, gyda'r potensial i gynnig gostyngiad ffi o 0.5%.

Mae pympiau gwres o'r ddaear a'r aer yn lleihau'n sylweddol y galw gweithredol am ynni yn ystod oes eiddo ond maent yn dueddol o achosi costau ymlaen llaw sydd ychydig yn uwch.

Er mwyn helpu i liniaru hyn, mae Banc Datblygu Cymru yn cymell eu defnyddio gyda gostyngiad mewn ffioedd benthyciad o 0.75% ar gyfer defnyddio pympiau gwres ffynhonnell aer ac 1% ar gyfer pympiau gwres ffynhonnell daear.

Darllenwch fwy am uchelgeisiau ynni glân ar gyfer cartrefi newydd Llywodraeth Cymru.

 

Trwy'r Gronfa Safleoedd Segur, gallwn ddarparu benthyciadau ar gyfer datblygiadau preswyl yng Nghymru na ellir eu symud ymlaen â chyllid datblygu traddodiadol.

  • Benthyciadau hyd at 75% o Werth Datblygu Gros, gan gynnwys hyd at 100% o gostau adeiladu
  • Maint benthyciadau o £150,000 i £6 miliwn
  • Telerau benthyciad o hyd at pedwar blynedd

Drwy gyfrwng Cronfa Eiddo Masnachol Cymru gallwn ddarparu cyllid ar gyfer swyddfa newydd a datblygiadau diwydiannol yng Nghymru.  

  • Maint benthyciadau o £250,000 i £5 miliwn
  • Telerau benthyca hyd at pump mlynedd
  • Mae cynlluniau hapfasnachol a chynlluniau nad ydynt yn rhai hapfasnachol (h.y. gyda neu heb ragosodiadau / gyn-werthiannau) yn gymwys

Dim ond prosiectau sy'n seiliedig yng Nghymru y gallwn gefnogi.

Cyn y gallwn eich helpu chi, bydd angen i chi ddarparu'r hyn a ganlyn i ni:

  • Copi o'r caniatâd cynllunio yn cadarnhau cymeradwyaeth ar gyfer yr hyn rydych chi'n bwriadu ei ddatblygu
  • Crynodeb o'ch cynlluniau datblygu a chostau rhagamcanol
  • Dadansoddiad o'r Gwerth Datblygu Gros disgwyliedig (hynny yw, y gwerthoedd terfynol wedi eu cwblhau)
  • Crynodeb o'ch profiad datblygu blaenorol ar eich cyfer chi a'r unigolion allweddol dan sylw